Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

03 Rhagfyr 2018

SL(5)282 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1992 ("Rheoliadau 1992").

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion), yn cynnwys ffigyrau poblogaeth oedolion wedi'u diweddaru ar gyfer pob awdurdod bilio, yn lle'r un bresennol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 15 Tachwedd 2018

Fe’u gosodwyd ar: 20 Tachwedd 2018

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2018

 

 

 

 

                                                                                                                                  


SL(5)283 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau. 

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant a nodir yn Erthygl 8 o Orchymyn 2017 i £100,000.

Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant a nodir yn Erthygl 8 o Orchymyn 2017 rhag talu ardrethi annomestig.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 15 Tachwedd 2018

Fe’u gosodwyd ar: 20 Tachwedd 2018

Yn dod i rym ar: 19 Rhagfyr 2018